Psalms 4

Gweddi am help

I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat!
Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham!
Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan.
Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
2“Chi bobl feidrol,
am faint mae fy enw i gael ei sarhau?
Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth,
a dilyn pethau twyllodrus?”

 Saib
3Deallwch fod yr Arglwydd yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun!
Mae'r Arglwydd yn clywed pan dw i'n galw arno.
4Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!
Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
5Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo;
trowch a trystio'r Arglwydd.
6Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”
O Arglwydd, wnei di fod yn garedig aton ni?
7Gwna fi'n hapus eto, fel yr adeg
pan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
8Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel,
am dy fod ti, O Arglwydd, yn fy nghadw i'n saff.
Copyright information for CYM